Llyfr Coginio: Pice ar y maen

Cynhwysion golygu

 
Esiampl o bice ar y maen
  • 225g/8oz o flawd codi
  • 110g/4oz o fenyn hallt (o Gymru yn ddelfrydol)
  • 1 wy
  • llond llaw o syltanas
  • llaeth, os oes angen
  • 85g/3oz o siwgr mân
  • menyn ychwanegol, er mwyn iro

Dull paratoi golygu

  1. Rhwbiwch y menyn i mewn i'r blawd gogrynedig er mwyn creu briwsion bara. Ychwanegwch y siwgr, ffrwythau sych ac yna'r wy. Cymysgwch y cyfan, yna ffurfiwch pelen o does gan ddefnyddio ychydig o laeth os oes angen.
  2. Rholiwch y toes nes ei fod tua 5mm/¼modfedd o drwch ac yna torrwch e'n gylchoedd gyfa thorrwr rhychiog 7.5-10cm/3-4 modfedd.
  3. Nawr bydd angen maen neu gradell haearn trwm arnoch. Rhwbiwch fenyn drosto a sychwch unrhyw fenyn sy'n ormodol i ffwrdd. Rhowch y maen neu'r gradell ar y gwres a gadewch iddo gynhesu. Rhowch y pice ar y maen, gan eu troi unwaith. Bydd angen rhyw 2-3 ar bob ochr arnynt. Rhaid i'r ddwy ochr frownio cyn eu troi.
  4. Tynnwch y pice oddi ar y maen a taenwch siwgr mân drostynt tra'u bod dal yn gynnes. Gellir hepgor y ffrwythau sych pe dymunir, neu eu torri'n ddwy ar ôl iddynt oeri a chreu rhyw fath o frechdan ohonynt trwy roi jam yn y canol.