Sut i wneud coffi da

Anghenreidiau

golygu
  • Peidiwch a defnyddio dŵr berwedig (mae coffi yn wahanol i de). Mae dŵr berwedig yn difetha'r blas. Dylai'r dŵr fod yn canu; 90°C. Os ydy'r dŵr yn berwi rhaid gadael iddo oeri ychydig cyn gwneud y coffi.
  • Peidiwch a golchi eich pot coffi gyda'r llestri neu fydd blas sebon ar y coffi. Gwell golchi pot coffi mewn dŵr poeth a bicarbonad.
  • Peidiwch ac ail gysylltu eich pot coffi cyn ei rhoi i gadw. Rhaid cadw'r darnau yn wahan neu fyddyn nhw'n mynd i ddrewi a rhoi blas cas ar y coffi.

Awgrymiadau

golygu
  • Mae crema (ewyn parhaus o liw gafrewig) ar wyneb coffi da. Os oes dim crema roedd y dŵr yn rhy boeth neu mae'n bosibl bod y ffa wedi eu malu yn rhy fân.
  • Mae siwgwr powdwr yn well mewn coffi na siwgwr lwmp. Gan fod coffi ddim yn ferwedig mae lwmp o siwgwr yn oeri'r coffi ac yn cymryd amser hir i doddi.
  • Os ydych am boethi llaeth, ychwanegwch ddŵr ato yn gynta neu fydd croen yn ffurfio ar y coffi.
  • Mae dŵr meddal (fel dŵr Cymru) yn gwneud gwell coffi na dŵr caled. Os ydych yn digwydd buw mewn ardal dŵr caled, gwell cael rhyw ddyfais i feddalu'r dŵr.
  • Gan fod coffi yn dueddol i oeri yn fuan. Mae hi'n syniad da i dwymo'r cwpanau. Mewn tafarn goffi fe fyddyn nhw'n eu cadw ar ben tanc dŵr poeth y peiriant espresso.
  • Peidiwch a gadael coffi yn y malwr dros nos gan fydd e'n amsugno dŵr a difetha'r blas.
  • Mae coffi wedi malu yn cadw'n well yng ngwaelod yr oergell.
  • Moca (Mocha / Moka / Mocca) yw'r coffi gorau. (Mae e'n cael ei allforio o Al-Mukha, porthladd masnachwyr coffi yn yr Yemen. Mae llawer o goffi Moca yn dod o Ethiopia.)
  • Beth am gymysgu 10% Robusta gyda 90% Arabica? Fe fydd y Robusta yn rhoi cic iddo. I wneud coffi a blas Eidalaidd, cymysgwch 30% Robusta gyda 70% Arabica.