Llyfr Coginio:Teisen Banoffi

Teisen Banoffi

Cynhwysion

golygu

I wneud gwaelod y deisen, malwch y bisgedi'n frwision gyda rholbren. Mae'n well gwneud hyn mewn gyda'r bisgedi tu fewn bag rhewi er mwyn hwyluso'r broses. Toddwch 2/5 o'r menyn (tua 4oz) mewn sosban fawr. Ar ôl ei doddi, tynnwch e oddi ar y gwres ac ychwanegwch i'r briwsion bosgedi. Gwasgwch y cyfan i waelod tun gwaelod-rhydd 8-modfedd (20cm) a throsglwyddwch hyn i'r oergell i oeri.

Er mwyn gwneud y llenwad, rhowch y menyn sydd dros ben a'r siwgr i mewn i sosban o faint canolig (un gwrth-stic yn ddelfrydol) a thoddwch dros wres cymhedrol, gan droi'r gymysgedd nes fod y menyn wedi toddi, a'r siwgr yn dechrau toddi. Ychwanegwch y llaeth tewychedig a chynyddwch y gwres nes i'r gymysgedd ferwi, gan ei droi'n barhaus am 5 munud er mwyn creu'r caramel.

I roi'r cyfan at ei gilydd, torrwch y bananas yn sleisiau, gosodwch nhw dros y gwaelod o fisgedi, ac arllwyswch y caramel drosto. Yna rhowch e nol yn yr oergell am awr o leiaf er mwyn i'r caramel galedu.

Cyn ei weini, chwipiwch yr hufen a'i osod ar ben y bananas a'r caramel gan ddefnyddio llwy. Pe dymunwch gallwch addurno'r deisen gyda chrafion siocled.

Rhybudd

golygu
  • Mae'n bosib na fydd un teisen yn ddigon!