Llyfr Coginio:Ŵy wedi ffrio
Mae ŵyau wedi ffrio, yn frecwast poblogaidd yn yr Unol Daleithiau, Canada, a Gorllewin Ewrop, ac mae'n cymryd tua 5 munud i'w baratoi. Yn aml cânt eu gweini gyda thost neu fwydydd eraill wedi'u ffrio.
Cynhwysion
golygu- 2 llwy de o fenyn (neu olew olewydd)
- 2 neu 3 ŵy, yn dibynnu ar archwaeth
- Halen a phupur i'w flasu (opsiynnol)
Offer
golygu- Padell ffrio fach (10")
- Ysbodol (spatula)
- Cylch nwy, ar wres cymhedrol
Dull
golygu- Toddwch y menyn yn y badell ffrio dros wres cymhedrol.
- Craciwch yr ŵy i mewn i'r badell ffrio a gadewch iddo ffrio nes i ochrau'r melyn ŵy ddechrau caledu (a ddynodir gan liw y melyn ŵy yn goleuo).
- Defnyddio'r ysbodol, trowch yr wyau drosodd a gadewch iddynt goginio am rhwng 10 eiliad i 90 eiliad, yn dibynnu ar ba mor rhedlyd rydych yn hoffi eich melyn ŵy.
- Ychwanegwch halen a phupur am flas, ac yna gweinwch y bwyd.