Beth i wneud mewn daeargryn

Beth ddylech chi wneud mewn daeargryn? golygu

 
Esiampl o adeilad yn symud mewn daeargryn

Os ydych yn byw mewn ardal lle ceir daeargrynfeydd, mae yna nifer o bethau y gallwch wneud er mwyn amddiffyn eich hun cyn, yn ystod, ac ar ôl daeargryn. Y ddau brif nod yw sicrhau nad yw eich tŷ na'i gynnwys yn beryglus a bod eich tŷ yn rhywle y medrwch fyw ynddo'n annibynnol am ychydig ddyddiau tan fod y gwasanaethau brys yn gallu eich helpu.

Cyn y ddaeargryn:

  • Trefnwch fod peirannydd yn dod i weld pa mor gadarn yw strwythur y tŷ. Sicrhewch fod darnau gwahanol o'r lloriau, y waliau a'r seiliau wedi'u cysylltu â'i gilydd.
  • Rhowch fraced er mwyn cysylltu'r simne â'r to.
  • Sicrhewch nad yw eitemau trwm wedi'u storio mewn mannau uchel. Symudwch nhw i fan îs er mwyn eu hatal rhag syrthio.
  • Bolltwch ddodrefn trwm i'r waliau gyda bolltiau, sgriwiau neu golfachau strap.
  • Amnewidiwch bylbiau golau halogen gyda bylbiau fflwroleuol er mwyn lleihau'r risg o dân.
  • Gwiriwch fod y pibellau nwy wedi eu gwneud o ddefnydd hyblyg er mwyn sicrhau nad ydynt yn rhwygo.
  • Dylai pawb yn y cartref fod yn gwybod sut i ddiffodd y cyflenwad nwy.
  • Paratowch git daeargryn gyda digon o ddŵr a bwyd am dridiau o leiaf. Dylech gynnwys radio a batris hefyd.
  • Gosodwch fflachlampau dros y tŷ i gyd fel bod un ar gael ar bob adeg. Rhowch un yn nhu blaen eich car hefyd.
  • Cadwch nifer o ddiffoddwyr tân o amgylch y tŷ i ddelio ag unrhyw danau bychain.
  • Gwnewch yn siwr fod cit cymorth cyntaf gennych yn gyfleus.
  • Cynlluniwch sut y byddwch yn gadael eich cartref a ble y byddwch yn ymgynnull ymlaen llaw. Peidiwch cynllunio gyrru ar heolydd sydd yn debygol o fod wedi'u difrodi.
 
Adeilad wedi'i ddifrodi gan ddaeargryn

Yn ystod y daeargryn:

  • Os ydych mewn adeilad, ewch ar y llawr o dan ddesg neu fwrdd cadarn, amddiffynnwch eich pen ac arhoswch yno.
  • Osgowch ffenestri a drychau oherwydd gallant gwympo a glanio arnoch. Osgowch ddodrefn mawr allai syrthio arnoch.
  • Os nad yw'r adeilad yn ddiogel, ewch tu allan cyn gynted a phosib. Rhedwch i fan agored, yn ddigon pell o adeiladau a gwifrau trydan allai ddisgyn arnoch.
  • Os ydych mewn car, arhoswch yn y car ac osgowch adeiladau a allai gwympo e.e. pontydd, adeiladau, trosffyrdd.

Ar ôl y ddaeargryn:

  • Cofiwch mae'n debygol y bydd ôl-dirgryniadau.
  • Osgowch ardaloedd peryglus fel llethrau bryniau lle gallai tirlithriad ddigwydd.
  • Diffoddwch y dŵr a'r trydan i'ch cartref.
  • Defnyddiwch eich ffôn mewn argyfwch yn unig. Bydd nifer o bobl gydag anghenion difrifol iawn yn ceisio cysylltu â'r gwasanaethau brys.
  • Byddwch yn barod i aros am gymorth neu gyfarwyddiadau. Cynorthwywch bobl eraill os oes angen.