Barddoniaeth/Soned
Cerdd delynegol bedair llinell ar ddeg yw soned.
Pwrpas soned yw i fynegi un syniad neu deimlad mewn un gerdd.
Ysgrifennir y soned yn y mesur pumban dyrchafedig neu iambig, gyda deg sill i bob llinell a phwyslais ar bob yn ail sill (da-DA da-DA da-DA da-DA da-DA).
Y ddau brif fath o soned yw'r soned Eidalaidd neu Betrarchaidd a'r math Shakespearaidd.
Soned Eidalaidd
golyguPatrwm odl y soned Eidalaidd yw:
- A B B A; A B B A; C CH D; C CH D.
Rhenni yn wythawd (sef dau bennill pedair llinell) ac yn chwechawd (sef dau bennill tair llinell).
Soned Shakespearaidd
golyguPatrwm odl y soned Shakespearaidd yw:
- A B A B; C CH C CH; D DD D DD; E E.
Rhennir yn dri phennill pedair llinell, a chwpled i'w chloi.
Enghraifft o soned Shakespearaidd yn y Gymraeg yw Y Llwynog gan R. Williams Parry.
I ysgrifennu soned Shakespearaidd, cynlluniwch thema a throsiad i'ch pennill pedair llinell cyntaf.
Ar gyfer yr ail bennill pedair llinell, datblygwch ac ehangwch thema'r soned a throsiad y pennill cyntaf mewn modd dychmygol.
Yn y trydydd bennill pedair llinell, ceir trobwynt y soned. Yn aml defnyddir gair megis "ond", "er", "pan" ayyb i arwyddo hyn, gan amlaf yn nawfed linell y gerdd.
Yn eich cwpled, rhaid rhoi casgliad cryf i'r soned, ac o bosib darganfyddiad.
Wrth ysgrifennu geiriau eich soned, defnyddiwch thesawrws os oes gennych diffyg neu ormodedd o sillau yn eich llinellau er mwyn darganfod geiriau amgen.
Fel gydag unrhyw waith arall o ysgrifennu creadigol, adolygwch ac ailddrafftiwch eich soned.
Adnoddau
golyguDarllenwch gwaith sonedwyr eraill am ysbrydoliaeth. Dyma rhai o'r enwocaf:
- Cymraeg: R. Williams Parry, T. H. Parry-Williams.
- Saesneg: William Shakespeare, Elizabeth Barret Browning, William Wordsworth, Christina Rossetti.
- Eidaleg: Francesco Petrarca, Dante Alighieri.