Gwyddbwyll/Nodiant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 10:
Mae nifer o aelodau tim gwyddbwyll Cymru erbyn hyn yn cofnodi eu gemau drwy ddefnyddio nodiant Cymraeg ee Bb1 (symud y Frenhines i sgwar b1). Dyna pam mae Teyrn yn cael ei ddefnyddio yn lle Brenin gan y byddai'n cymysgu gyda Brenhines ee Tb1 etc.. Does dim angen symbol ar y Gwerinwr - pan yn symud gwerinwr o sgwar a2 i a4 y nodiant yw a2-a4, neu'n symlach fyth a4 (!)
 
Mae en passant yn cael ei ddefnyddio gan chwaraewyr Cymraeg, a Siach am Check a Siachmat am Checkmate - sy'n agos at y gwreiddiol (datblygodd y gair siach drwy Arabeg o Bersieg: shāh = "teyrn"). Nodiant wrth gofnodi Siach yw + ee Marchog ar e5 yn symud i e3d3 i roi Siach - Me5-d3+. Mae'r term J'adoube yn cael ei ddefnyddio pan yn cyffwrdd mewn darn i'w roi yn drefnus ar sgwar heb y bwriad o'i symud - mae llawer o anghytuno am darddiad hwn - ond ia-dwwb yw'r ynganiad.